ABERSOCH COTTAGES  Bryn Celyn Bellaf

Lleoedd i'w gweld

Aberdaron

Pictiwr o bentref bach hen ffasiwn yw Aberdaron a thua deng milltir o Sarn ym mhen pellaf y penrhyn. Mae'n hynod boblogaidd yn ystod y Gwanwyn a'r Haf ac yn hudo teuluoedd, syrffwyr, cerddwyr, torheulwyr a morwyr i fwynhau'r heddwch a'r harddwch. Profiad bythgofiadwy yw dal y cwch o Borth Meudwy (fel y pererinion gynt!) a chroesi'r Swnt i Ynys Enlli.

Blaenau Ffestiniog

Mae Blaenau Ffestiniog yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Dyma'r dref fu'n toi y byd! Llechi roddodd Blaenau Ffestiniog ar fap y byd ac mae'n denu ymwelwyr hyd heddiw..

Caernarfon (27 milltir o Abersoch)

Mae tref hanesyddol a brenhinol Caernarfon gyda un o gestyll mwyaf Edward y cyntaf, a fu unwaith yn tra- arglwyddiaethu, bellach yn ddiniwed ond yn dal yn urddasol yng ngheg yr afon Seiont. .

Pwllheli

Yn ychwanegol i'r uchod, mae Plas Bodegroes yn westy moethus i gael pryd mewn steil ynddo. Gallwch ymweld a Phenarth Fawr, tŷ o'r bymthegfed ganrif sydd wedi ei gynnal a'i gadw i'r dyfodol. I ddifyrru'r plant, beth am ymweld a Hafan y Môr (yr hen Butlins) neu Barc Glasfryn lle mae digon o weithgareddau i'r mentrus! Mae marchnad ym Mhwllheli bob dydd Mercher a dydd Sul yn yr Haf a cheir sinema yno. Mae'r Marina yn brysur ac yn denu morwyr yn llu.

Porthdinllaen (12 milltir o Abersoch)

Gynt yn bentref pysgota, mae Porthdinllaen yn bictiwr o le gyda'i harbwr naturiol o fewn bae tua milltir a hanner o hyd. Mae'n gysgodol ac yn cynnig lloches i gychod...hafan go iawn. I gyrraedd y llecyn hudolus yma rhaid cerdded ar draws y traeth o Forfa Nefyn, neu gerdded drwy'r cwrs golf. Ond mae tafarn enwog Tŷ Coch Inn ar y taeth a'i thraed bron yn y dwr! Cewch fwyd a diod yma!

Porthmadog

Tua deunaw milltir o Abersoch, drwy bentref Cricieth mae tref brysur Borthmadog, lle cewch ddal y tren bach i Gaernarfon neu i Flaenau Ffestiniog. Mae prif lein y Cambrian yn mynd drwy Porthmadog o Bwllheli ac i lawr am Fachynlleth

Yr Wyddfa

O Lanberis cewch fentro i fyny'r Wyddfa (3560 troedfedd). Mae sawl llwybr i fyny...neu'r tren bach wrth gwrs. Cewch banad yn y caffi newydd ar y copa a golygfa odidog.

 
Atyniadau

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
I'w gwneud

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
Cysylltiadau

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn

 

Contact:

Mrs. Evans
Tel: 01758 712 702
Email:info@abersoch-cottages.co.uk

Terms & Conditions

 

Copyright Â© abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved