Hafod y Nant
ABERSOCH
COTTAGES Hafod
y Nant Pethau i'w wneud
O fewn cylch o ryw 30 milltir mae digonedd o atyniadau i'ch cadw yn brysur.
Ysgol Hwylio Abersoch - Rhif ffôn 07917 525 540 Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwersi i bob oed fel gwersi hwylio, gyrru cychod pŵer, clwb y morladron bach, mordeithiau, gwersi kayak a pedalo. Clwb Golff Abersoch - Rhif ffôn 01758 712636 Mae ymhlith yr ugain cwrs gorau yng Nghymru hefo golygfeydd gwych a staff cyfeillgar. Mae'n addas ar gyfer golffwyr o bob safon. Ffestiniog and Welsh Highland Railway - Rhif ffôn 01766 516 000 Gallwch ddal y tren bach o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog ac ymweld â hen chwarel Llechwedd. Mae'r daith ei hun yn werth chweil a golygfeydd godidog ar bob llaw. Llechwedd Slate Caverns - Rhif ffôn 01766 830 306 Atynfa newydd yw Bounce Below...Rhif ffôn 01248 601 444...trampoline tanddaearol, neu gallwch fentro ar y 'zipwire' dros y chwarel. Plas Glyn y Weddw Llanbedrog - Rhif ffôn 01758 740763 Yn yr adeilad diddorol ei bensaerniaeth o'r ddeunawfed ganrif ar bymtheg, cewch fynediad am ddim i grwydro ag edmygu ei gasgliadau o gelfi a darluniau yn yr arddangosfa. Cynhelir ambell i gyngerdd neu ddrama yn yr awyr agored o bryd i'w gilydd neu weithdai a darlithoedd yn ystod y flwyddyn. Cewch hefyd fwynhau paned neu bryd yn y caffi deniadol. Mae wedi ei leoli dafliad carreg o draeth braf Llanbedrog. Pwllheli Yn ychwanegol, mae Plas Bodegroes yn westy moethus i gael pryd mewn steil ynddo. Gallwch ymweld a Phenarth Fawr, ty o'r bymthegfed ganrif sydd wedi ei gynnal a'i gadw i'r dyfodol. I ddifyrru'r plant, beth am ymweld a Hafan y Mor (yr hen Butlins) neu Barc Glasfryn lle mae digon o weithgareddau i'r mentrus! Mae marchnad ym Mhwllheli bob dydd Mercher a dydd Sul yn yr Haf a cheir sinema yno. Mae'r Marina yn brysur ac yn denu morwyr yn llu. Cwrs links par 69 yw Cwrs Golff Pwllheli tra bo'r Clwb Hwylio yn ganolfan digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol Plas yn Rhiw - Rhif ffôn 01758 780219 Plasdy hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg hefo gerddi braf yn Rhiw ger Aberdaron.
|
|
|
Atyniadau
>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
|
I'w gwneud
>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
|
Cysylltiadau
>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
|
Copyright © abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved

