ABERSOCH COTTAGES  Hafod y Nant - Bryn Celyn
 

Pethau i'w wneud

O fewn cylch o ryw 30 milltir mae digonedd o atyniadau i'ch cadw yn brysur.

 

Ysgol Hwylio Abersoch - Rhif ffôn 07917 525 540

Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwersi i bob oed fel gwersi hwylio, gyrru cychod pŵer, clwb y morladron bach, mordeithiau, gwersi kayak a pedalo.

Clwb Golff Abersoch - Rhif ffôn 01758 712636

Mae ymhlith yr ugain cwrs gorau yng Nghymru hefo golygfeydd gwych a staff cyfeillgar. Mae'n addas ar gyfer golffwyr o bob safon.

Ffestiniog and Welsh Highland Railway - Rhif ffôn 01766 516 000

Gallwch ddal y tren bach o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog ac ymweld â hen chwarel Llechwedd. Mae'r daith ei hun yn werth chweil a golygfeydd godidog ar bob llaw.

Llechwedd Slate Caverns - Rhif ffôn 01766 830 306

Atynfa newydd yw Bounce Below...Rhif ffôn 01248 601 444...trampoline tanddaearol, neu gallwch fentro ar y 'zipwire' dros y chwarel.

Plas Glyn y Weddw Llanbedrog - Rhif ffôn 01758 740763

Yn yr adeilad diddorol ei bensaerniaeth o'r ddeunawfed ganrif ar bymtheg, cewch fynediad am ddim i grwydro ag edmygu ei gasgliadau o gelfi a darluniau yn yr arddangosfa. Cynhelir ambell i gyngerdd neu ddrama yn yr awyr agored o bryd i'w gilydd neu weithdai a darlithoedd yn ystod y flwyddyn. Cewch hefyd fwynhau paned neu bryd yn y caffi deniadol. Mae wedi ei leoli dafliad carreg o draeth braf Llanbedrog.

Pwllheli

Yn ychwanegol, mae Plas Bodegroes yn westy moethus i gael pryd mewn steil ynddo.

Gallwch ymweld a Phenarth Fawr, ty o'r bymthegfed ganrif sydd wedi ei gynnal a'i gadw i'r dyfodol.

I ddifyrru'r plant, beth am ymweld a Hafan y Mor (yr hen Butlins) neu Barc Glasfryn lle mae digon o weithgareddau i'r mentrus!

Mae marchnad ym Mhwllheli bob dydd Mercher a dydd Sul yn yr Haf a cheir sinema yno.

Mae'r Marina yn brysur ac yn denu morwyr yn llu.

Cwrs links par 69 yw Cwrs Golff Pwllheli tra bo'r Clwb Hwylio yn ganolfan digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol

Plas yn Rhiw - Rhif ffôn 01758 780219

Plasdy hynafol o'r unfed ganrif ar bymtheg hefo gerddi braf yn Rhiw ger Aberdaron.

 

 

Atyniadau

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
I'w gwneud

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn
Cysylltiadau

>>
ar/ger Benrhyn Llŷn

 

Contact:

Mrs. Evans
Tel: 01758 712 702
Email:info@abersoch-cottages.co.uk

Terms & Conditions

 

Copyright Â© abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved