ABERSOCH COTTAGES  Bryn Celyn Bellaf

 
Gwybodaeth
Tŷ pen (o ddau dy) yw Bryn Celyn Bellaf a lle i bedwar ynddo. Mae wedi ei leoli tua milltir o Hafod y Nant a rhyw ganllath o'r lôn fawr hefo golygfeydd braf dros gefn gwlad ddigyfnewid. Tua milltir i ffwrdd (taith gerdded o ugain munud) mae traeth hyfryd Porth Ceiriad ac i chwi gerddwyr brwd gallwch gerdded ran o lwybr arfordirol Cymru sydd gerllaw.

Y Bwthyn
Mae ynddo lolfa braf i ymlacio ynddi, teledu a chegin helaeth hefo bwrdd bwyta a digon o gyfarpar modern. O'r cyntedd mae grisiau i'r llawr cyntaf lle mae un ystafell ddwbl olau braf ac un ystafell hefo dau wely sengl hefo golygfa o'r gerddi a'r wlad o amgylch. Mae iddo ardd breifat, ddiogel hefo bwrdd a chadeiriau i fwynhau pryd yn yr awyr agored. Dyma lecyn i lwyr ymlacio ac i anghofio'r byd a'i boenau! Caniateir ci neu ddau ond gofynwn yn garedig i chwi eu gwahardd rhag neidio ar y gwlau a'r cadeiriau.

Cyfleusterau
Mae Bryn Celyn Bellaf yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol i wneud eich arhosiad yn un pleserus. Yn y gegin fodern mae peiriant golchi llestri a dillad, meicrodon, haearn smwddio a.y.y.b. Mae cyflenwad o gynfasau a thyweli ar gael ac mae 'duvet' ar bob gwely. Os byddwch angen crud neu gadair uchel i fabi/plentyn ifanc, dim ond gofyn. Ceir gwres canolog drwy'r tŷ a mesurydd trydan i ddynodi eich defnydd o drydani'w dalu wrth adael. Mae digon o le parcio wrth y ty.

Yr ardal gyfagos

Mae'r eiddo wedi ei leoli yn Sarn ger safle carafannau sefydlog bach, milltir o'r traeth a cheir mynediad iddo ar hyd trac preifat 100 llath. Cymer 45 munud i gerdded o'r bwthyn i Abersoch. Yno mae mân siopau, 'boutiques', archfarchnad fechan, banc, swyddfa bost, siopau pysgod a sglodion, llond dwrn o dai bwyta o safon, tafarndai a gwestai. Mae traeth tywod Porth Mawr yn un trawodiadol iawn yn ogystal a'r hen harbwr lliwgar. Mae nifer o draethau a sawl bae arall o fewn cyrraedd, fel Porth Ceiriad a Phorth Neigwl. Gallwch gyrraedd Pwllheli o fewn ugain munud( mewn car) lle mae nifer helaeth o siopau, archfarchnad neu ddwy, tai bwyta, tafarndai, gwestai, gorsaf tren, marina, theatr , sinema a traeth eang.


Abersoch Mae Abersoch yn boblogaidd iawn ac yn denu peldroedwyr ac ambell i 'seleb' nid anenwog sydd yn gwerthfawrogi y gornel freintiedig yma o Gymru. Ceir yma sawl 'boutique' ffasiynol, tai bwyta da, siopau, swyddfa Bost a banc heb anghofio'r golygfeydd gwych, traethau tywod glan, hwylio penigamp a machlud mawreddog wrth gwrs! Gallwch gerdded o Hafod y Nant i Abersoch mewn tri chwarter awr....

Pwllheli, yw prifddinas answyddogol Penrhyn Llŷn! Mae'n dref farchnad brysur, llawn cymeriad, rhyw ugain munud o Sarn (mewn car). Ar wahan i'r siopau, tai bwyta ac archfarchnadoedd, mae yma orielau celf, siopau hen bethau a siopau bach arbennigol.

Mae rhyw naws Ewropeaidd i'r dref hefo'i siopau coffi yma ac acw a'i strydoedd cul. Ymestyn y traeth deheuol am sawl milltir ac mae wedi ei wobrwyo a Baner Las Ewropeaidd.


O bentref enwog Aberdaron, sydd ddeng milltir i ffwrdd, cewch groesi ar y fferi o Borth Meudwy i Ynys Enlli. Ar y ffordd efallai y cewch weld ambell i ddolffin, llamhidydd neu hyd yn oed forfil ac adar o bob math. Am wybodaeth pellach Rhif ffon 07971 769895

Canolfan Dwristiaeth Pwllheli - wrth orsaf y tren.Rhif ffon 01758 613000

Canolfan Dwristiaeth Abersoch yn y stryd fawr.Rhif ffon 01758 712929

Llanbedrog Tacsi: Rhif ffon 07812082223


Contact:

Mrs. Evans
Tel: 01758 712 702
Email:info@abersoch-cottages.co.uk

Terms & Conditions

 

Copyright © abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved