ABERSOCH COTTAGES  Hafod y Nant - Bryn Celyn
 

 

Holiday rental cottages set in picturesque countryside and within short walking distance to the beach

Hafod y Nant
Bryn Celyn Bellaf
 

Croeso
i'n gwefan a diolch am ymweld â'n tudalen. Gan eich bod wedi cyrraedd y fan hyn, mae'n sicr eich bod yn ystyried ac yn chwilota am fwthyn i'w rentu ar arfordir hyfryd Llŷn. Gobeithio y bydd ein bythynnod yn ateb eich gofynion.

Hafod y Nant
Hen dy fferm o'r 17eg ganrif, wedi ei foderneiddio. Mae wedi ei leoli rhyw 300 llath o'r traeth a thair milltir o Abersoch. Ceir golygfeydd ysblennydd dros Borth Neigwl tuag at Ynys Enlli. Mae lle i chwech mewn tair ystafell wely. Mae gardd amgaeedig a chroeso i un neu ddau gi.

Bryn Celyn Bellaf
Mae'r bwthyn wedi ei leoli tua milltir o Hafod y Nant ac mae golygfeydd mawreddog  o'r mynyddoedd gan gynnwys Garn Fadryn ac mae traeth hyfryd Porth Ceiriad o fewn ugain munud ar droed. Mae lle i bedwar yma, mewn 2 ystafell wely. Croesewir cwn yma hefyd.

Contact:

Mrs. Evans
Tel: 01758 712 702
Email:info@abersoch-cottages.co.uk

Terms & Conditions

 

Copyright © abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved