Hafod y Nant
ABERSOCH
COTTAGES Hafod
y Nant Yr ardal gyfagos
Mae Hafod y Nant ym mhentref bach Sarn sydd oddeutu dwy filltir o
Abersoch.
Mae rhyw filltir gwta o lwybr fferm troellog i gyrraedd y bwthyn felly
bydd ambell i ysgytwad a dafad neu fuwch i'ch cyfarch! Nepell o'r
bwthyn mae fferm draddodiadol Gymreig ac mae rhywun ohonom (y
perchnogion) ar gael os byddwch angen help. Mynydd Cilan sy'n gefndir
i'r fferm ac mae'r olygfa o'r copa yn werth ei gweld.
Yn Sarn mae archfarchnad fechan hefo ystod eang o fwydydd a diodydd
a.y.y.b. Rhyw filltir ymhellach mae tref fyrlymus Abersoch a'i harbwr
lliwgar a thraeth Porth Mawr. Ceir sawl traeth a bae hyfryd yn ymyl
hefyd fel Porth Neigwl a Phorth Ceiriad.
Abersoch: Mae Abersoch yn boblogaidd iawn ac yn denu peldroedwyr ac ambell i 'seleb' nid anenwog sydd yn gwerthfawrogi y gornel freintiedig yma o Gymru. Ceir yma sawl 'boutique' ffasiynol, tai bwyta da, siopau, swyddfa Bost a banc heb anghofio'r golygfeydd gwych, traethau tywod glan, hwylio penigamp a machlud mawreddog wrth gwrs! Gallwch gerdded o Hafod y Nant i Abersoch mewn tri chwarter awr....
Pwllheli yw prifddinas answyddogol penrhyn Llyn! Mae'n dref farchnad brysur, llawn cymeriad, rhyw ugain munud o Sarn (mewn car). Ar wahân i'r siopau, tai bwyta ac archfarchnadoedd, mae yma orielau celf, siopau hen bethau a siopau bach arbennigol.
Mae rhyw naws
Ewropeaidd i'r dref hefo'i siopau coffi yma ac acw a'i strydoedd cul.
Ymestyn y traeth deheuol am sawl milltir ac mae wedi ei wobrwyo â Baner
Las Ewropeaidd.
O
bentref enwog Aberdaron, sydd ddeng milltir i ffwrdd, cewch groesi ar y
fferi o Borth Meudwy i Ynys Enlli. Ar y ffordd efallai y cewch weld
ambell i ddolffin, llamhidydd neu hyd yn oed forfil ac adar o bob math.
Am wybodaeth pellach ffoniwch 07971 769895
Canolfan Dwristiaeth Pwllheli - wrth orsaf y tren.Rhif ffon 01758 613000
Canolfan Dwristiaeth Abersoch yn y stryd fawr.Rhif ffon 01758 712929
Llanbedrog Tacsi: Rhif ffon 07812082223
Copyright © abersoch-cottages.co.uk - All Rights Reserved
Seaview
Location
Contemporary
Comfort
Al fresco
Living
Breathtaking
Scenery
Rustic
Charm